top of page
Goodson Thomas

Goodson Thomas yn Cyhoeddi Newid i Strwythur Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr




Mae Goodson Thomas, cwmni chwilio gweithredol dwyieithog a sefydlwyd ac sydd â’i bencadlys yng Nghymru, wedi trosglwyddo’n swyddogol i strwythur sy’n eiddo i’r gweithwyr.


Dros y degawd diwethaf, mae’r busnes wedi tyfu o ddau weithiwr cyflogedig i dîm o wyth, wedi cyflawni bron i 280 o benodiadau ac wedi sefydlu ei hun fel arweinydd wrth benodi rolau gweithredol ac anweithredol ar draws sectorau amrywiol yng Nghymru.


Mae’r datblygiad diweddaraf yn rhoi cyfranddaliadau’r cwmni mewn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr (EOT) er budd yr holl weithwyr cymwys, diolch i gyngor arbenigol gan Cooper Cavendish LLP, sy’n gwneud gweithwyr yn rhan-berchnogion y cwmni ac yn rhoi cyfran iddynt yn ei ddyfodol.


Mae'r newid hwn hefyd yn golygu strwythur llywodraethu newydd yn Goodson Thomas. Bydd Sian Goodson, sylfaenydd y cwmni, yn camu i rôl y Cadeirydd Gweithredol, gan barhau i arwain ei weledigaeth strategol. Bydd yn gwasanaethu ar fwrdd cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth EOT ochr yn ochr â Chris Brindley, Hyfforddwr Gweithredol a chyn Gyfarwyddwr Anweithredol Goodson Thomas, a Steffan Jones, sy’n Ymgynghorydd gyda’r cwmni ar hyn o bryd. Bydd yr EOT yn canolbwyntio ar gynrychioli buddiannau gweithwyr.


Bydd arweinyddiaeth weithredol yn nwylo Ross O’Keefe, sydd newydd ei benodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr, a Catrin Taylor, Cyfarwyddwr. Gyda’i gilydd, byddant yn arwain datblygiad Goodson Thomas a’i gangen recriwtio Gymraeg newydd, Penodi a gyhoeddwyd yn swyddogol fis diwethaf.


Wrth fyfyrio ar y garreg filltir, dywedodd Sian Goodson, sydd wedi arwain y cwmni dros y ddegawd ddiwethaf:


“Mae trosglwyddo i berchnogaeth gweithwyr yn amserol wrth i Goodson Thomas ddathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. Mae’r symudiad hwn yn caniatáu i’r cwmni aros yn annibynnol ac ymroddedig i wasanaethu cymunedau Cymreig, wrth ddiogelu ein gwerthoedd fel busnes. Mae'r newid i fodel EOT yn cydnabod ymroddiad a gwaith caled ein tîm. Mae’n benderfyniad sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, gan roi’r cwmni yn nwylo’r rhai sy’n ei yrru ymlaen bob dydd.”

Mae Goodson Thomas yn darparu gwasanaethau chwilio gweithredol cynhwysfawr o'r dechrau i'r diwedd, sy'n ymroddedig i ddod o hyd i'r dalent orau a'i sicrhau. Mae ei wasanaeth newydd, Penodi, yn arbenigo mewn recriwtio ar gyfer swyddi lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol.


Dywedodd Ross O’Keefe, y Rheolwr Gyfarwyddwr:


“Mae dod yn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr yn cyd-fynd yn berffaith â’n gwerthoedd fel cwmni – gan bwysleisio bod cyfraniadau pawb yn wirioneddol bwysig. Mae ein gwaith, sy’n cael ei yrru gan bob aelod o’r tîm, yn canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd cryf. Er bod llenwi rolau yn allweddol, mae hefyd yn ymwneud â meithrin cysylltiadau ystyrlon rhwng ymgeiswyr a sefydliadau. Gyda’n rhwydwaith helaeth a’n harbenigedd, rydym yn dod â’r dalent orau i sefydliadau ledled Cymru.”

Yorumlar


bottom of page