.jpg)

Gwasanaethau
Mae ein gwasanaethau, a gynigir yn y Gymraeg a'r Saesneg, wedi'u teilwra i ateb eich anghenion busnes chi. Rydym yn canolbwyntio ar roi'r arweinwyr iawn mewn swyddi lefel uchel a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am dueddiadau'r farchnad a mewnwelediadau sector.
I Gyflogwyr
Rydym yn ymrwymo i ddod o hyd i'r ymgeisydd gorau ar gyfer eich busnes chi, rhywun fydd nid yn unig yn dod â sgiliau a gwybodaeth hanfodol ond hefyd yn ysgogi twf a llwyddiant.
Mae ein dull yn drylwyr ac wedi'i deilwra ar eich cyfer chi. Rydym yn sicrhau ein bod yn deall eich anghenion a'ch diwylliant unigryw chi er mwyn eich paru â gweithiwr proffesiynol fydd yn rhagori yn ei swydd ond hefyd yn integreiddio'n esmwyth i'ch tîm ac yn cyfrannu at eich gweledigaeth ar gyfer yr hirdymor.
Chwiliad Gweithredol
Chwiliad

Gweithredol
Mae sefydliadau arweiniol angen haen uchaf y swyddogion gweithredol i gyd-fynd, cynnal a gwthio eich amcanion busnes yn eu blaenau. Yn Goodson Thomas, rydym yn chwilio'r farchnad yn drylwyr i ddod o hyd i’r ymgeiswyr gorau, gan ddefnyddio ein harbenigedd helaeth a'n sgiliau mireinio i sicrhau ein bod yn dod o hyd i'r unigolyn delfrydol ar gyfer pob rôl. Awn tu hwnt i sgiliau a phrofiad; rydym yn ystyried diwylliant a gweledigaeth unigryw eich sefydliad chi er mwyn sicrhau ffit berffaith sy’n meithrin llwyddiant a thwf hirdymor.
Chwiliad Cyfarwyddwyr
Cyfarwyddwyr Anweithredol ac Ymddiriedolwyr
Chwiliad

Daw cyfarwyddwyr anweithredol â phrofiad amhrisiadwy a mewnwelediad synhwyrol, ac mae nhw'n chwarae rhan hanfodol wrth lywio busnes i gyfeiriad llwyddiannus. Yn Goodson Thomas, rydym yn cydnabod effaith unigryw’r swyddi hyn ar sefydliad. Mae ein proses chwilio gweithredol yn golygu adnabod arweinwyr a all roi cyfeiriad strategol, rheolaeth a safbwyntiau arloesol.

Ein hymroddiad, ein harbenigedd a'n gwybodaeth mewn un lle. Mwynhewch erthyglau gan ein cyfarwyddwyr ac arweinwyr agweddau allweddol, wedi eu cynllunio yng ngoleuni’r tueddiadau, y newyddion a'r dadansoddiadau diweddaraf.
Mewnwelediad o bwys
Trosglwyddiadau Gweithredol
Trosglwyddiadau
Gweithredol

Rydym bellach yn defnyddio ein gwybodaeth a’n profiad yn y farchnad recriwtio swyddogion gweithredol i gefnogi uwch arweinwyr sydd wedi’u dadleoli i leoli eu hunain yn hyderus ar gyfer cyfleoedd newydd a datblygu eu brand proffesiynol.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer y gweithwyr arweinyddiaeth proffesiynol hynny sydd wedi'u dadleoli o'u rolau:
-
Arweinwyr a Chyfarwyddwyr C-Suite
-
Cynorthwy-ydd a Dirprwy Gyfarwyddwyr
-
Pennaeth Adran ac Uwch Bartneriaid Busnes





Chwilio lefel Canolig-Uwch
Ganolig-Uwch
Chwiliad

Mae swydd lefel ganolig-uwch yn un ganolog sy'n arwain timau tuag at gyflawni targedau a chadw llygad ar lwyddiant hirdymor ar yr un pryd. Yn Goodson Thomas, rydym yn deall natur hanfodol y swyddi hyn. Mae ein proses yn drylwyr ac yn graff – rydym yn archwilio, yn darganfod a dadansoddi darpar ymgeiswyr yn ofalus i sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r profiad priodol ond i sicrhau hefyd eu bod yn cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd eich cwmni.


Cefnogi Sefydliadau Cymreig
Rydym yn cynnig gwasanaeth cwbl gynhwysfawr, dwyieithog i sefydliadau blaenllaw yng Nghymru. Fel cwmni chwilio gweithredol yng Nghymru, rydym yn deall pwysigrwydd darparu gwasanaeth lefel uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg. Rydym yn cydnabod doniau a photensial unigryw pob unigolyn, gan helpu cwmni i gyrraedd ei lawn botensial.
Mewnwelediad Corfforaethol
Corfforaethol
Mewnwelediad

Mae ein gwasanaethau meincnodi cyflogau a chynllunio olyniaeth yn rhoi cyd-destun arbenigol y farchnad i strwythurau cyflog sefydliad. Mae hyn yn helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol mewn perthynas â lefelau cyflog, sy'n arwain at osod sylfaen ar gyfer llwyddiant y dyfodol trwy sicrhau bod y dalent orau’n cael ei denu a’i chadw.














