top of page
Goodson Thomas

Goodson Thomas: Pontio’n Ddi-dor o Yrfa i Yrfa

Gall pontio’n ddi-dor o yrfa i yrfa fod yn broses frawychus. Pa un a ydych yn chwilio am her newydd, yn anelu at ddringo’r ysgol broffesiynol neu’n ystyried newid eich gyrfa, yn aml gall y broses fod yn ansicr. Yn ddiweddar, rydym wedi gweithio gydag unigolion sydd wedi llwyddo i bontio yn y fath fodd, gan droi darpar rwystrau yn gyfleoedd i dyfu a llwyddo.


Her gyffredin sy’n wynebu nifer o weithwyr proffesiynol yw hunanamheuaeth ynglŷn â’u hunion le yn y farchnad swyddi. Hawdd iawn yw anwybyddu rolau y gallech ragori ynddynt, yn syml gan nad ydych o’r farn mai chi yw’r ymgeisydd delfrydol.


Medd Craig Hampton-Stone, Rheolwr Gyfarwyddwr Bws Caerdydd, “Buan iawn y sylweddolais mai’r ffordd orau o fynd ati oedd trosglwyddo rhywfaint o’r cyfrifoldeb dros fy mharu i â’r swydd iawn i ddwylo’r bobl a wyddai orau. Efallai fy mod wedi edrych ar rai rolau ac wedi meddwl nad oeddwn yn gweddu’n berffaith iddynt, ond roedd Goodson Thomas yn glir o’r cychwyn cyntaf ynglŷn â ble y gallwn lwyddo i sicrhau rôl a oedd yn iawn i mi.”

Mae aelodau ein tîm o arbenigwyr chwilio gweithredol yn defnyddio’u profiad i baru ymgeiswyr â rolau sy’n cyd-fynd â’u sgiliau a’u dyheadau o ran gyrfa.


Byddwn yn eich arwain bob cam o’r daith. Mae Darren Joyce, Prif Swyddog Gweithredol y Friendly Trust, yn tynnu sylw at y pwynt hwn: “Fe wnaeth Goodson Thomas gydgysylltu â’r Ymddiriedolwyr a’m hannog i ymgeisio. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, rydw i mor ddiolchgar am y cyngor a’r cymorth a gefais gan aelodau tîm Goodson Thomas – fe wnaethon nhw fy helpu i newid gyrfa’n llwyddiannus.”


Byddwn yn sicrhau y cewch eich paru â rolau sy’n cyd-fynd â’ch proffil personol, ond hefyd byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth foesol a strategol angenrheidiol i ragori yn eich swydd newydd.


Trwy weithio mewn partneriaeth â ni, yn aml caiff y broses ansicr sydd ynghlwm wrth symud o un yrfa i’r llall ei throi’n siwrnai drefnus a chefnogol. Awn ati i ganfod y cyfleoedd iawn, gan sicrhau eich bod wedi ymbaratoi’n dda a’ch bod yn hyderus ynglŷn â chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.


Medd Liz Downie, Prif Swyddog Gweithredol Thrive Women’s Aid: “Fel gweithiwr Adnoddau Dynol proffesiynol â mwy nag 20 mlynedd o brofiad, a minnau wedi ysgwyddo swyddi fel Cyfarwyddwr ac aelod o Fyrddau yn ystod saith mlynedd diwethaf fy ngyrfa, roedd i o’r farn mai nawr oedd yr adeg iawn imi gymryd y cam nesaf a chael swydd fel Prif Swyddog Gweithredol. Bu aelodau tîm Goodson Thomas yn gefnogol iawn a buont yno yn ystod pob cam o’r daith i gynnig anogaeth, cyngor ac arweiniad. Buaswn yn llwyr argymell tîm Goodson Thomas i unrhyw ymgeisydd sy’n dymuno cymryd y cam nesaf i sicrhau swydd uwch neu sy’n dymuno symud i sector arall.”


Os ydych yn ystyried newid gyrfa neu swydd, cysylltwch â ni i gael trafodaeth fanwl:


Comentarios


bottom of page