Pwy ydym ni
Rydym yn arbenigo mewn cynnal aseiniadau recriwtio gweithredol cynhwysfawr o'r dechrau i'r diwedd ac yn ymrwymo i ganfod a sicrhau'r doniau a'r cyfleoedd gorau i'n cleientiaid a'n hymgeiswyr.
Mae ein dull o weithredu yn rhoi pwyslais ar lenwi swyddi a chreu cysondeb sy'n meithrin llwyddiant hirdymor ac i'r ddwy ochr.
Creu Partneriaethau
Yn Goodson Thomas, rydym yn dod i adnabod a deall pob un o'n cleientiaid a'n hymgeiswyr, gan ddatblygu partneriaeth werth chweil a llwyddiannus.
Pobl yn gyntaf
Rydym yn deall bod dod â chleient ac ymgeisydd at ei gilydd yn fwy na dim ond mater o sgiliau a chymwysterau. Wrth gwrs, mae'r rhain yn rhan bwysig o ddiffinio cymwysterau unigolion ond rydym hefyd yn gwybod bod paru moeseg, moesau a gwerthoedd cleient ac ymgeisydd yn hanfodol wrth fynd i'r afael ag aseiniad.
Mae pob un o'n tîm yn arbenigwyr yn eu maes, gyda'r dalent, yr egni a'r ymrwymiad i gyd-fynd â'u sgiliau cyfunol. Rydym yn fwy na dim ond arbenigwyr chwilio gweithredol, rydym yn canolbwyntio ar bobl ac yn ymchwilio ac yn mireinio'r farchnad yn drylwyr er mwyn troi pob carreg.
Ein hymroddiad, ein harbenigedd a'n gwybodaeth mewn un lle. Mwynhewch erthyglau gan ein cyfarwyddwyr ac arweinwyr agweddau allweddol, wedi eu cynllunio yng ngoleuni’r tueddiadau, y newyddion a'r dadansoddiadau diweddaraf.