Yn dilyn yr Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol, bu ein Cyfarwyddwr Ross O'Keefe yn myfyrio ar yr hyn a ddysgodd amdano'i hun yn sgil dod yn dad mabwysiadol a'r hyn y mae'n gobeithio'i addysgu i'w blant er mwyn cefnogi eu llwyddiannau yn y dyfodol.
Mae'r arwyr gorau yn dod o hyd i ffordd o ddefnyddio poen y gorffennol i wneud daioni yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, caiff pob un ohonom (i ryw raddau) ein siapio gan ein profiadau, pa un a ydym yn sylweddoli hynny ai peidio. Yn aml, cawn ein 'cynhyrchu' gan ein hamgylcheddau; rydym yn dysgu gan y rhai sy'n troi o'n cwmpas, ac yn addysgu eraill sy'n troi o'n cwmpas ni - weithiau mewn modd agored a thro arall mewn modd isganfyddol. Mae hyn oll yn rhan o'n stori, ac mae ein straeon yn hollbwysig o ran ein helpu i ddeall pwy ydym ni.
I blant sydd wedi'u mabwysiadu, nid yw pethau mor syml; mae yna fwy i'w ddweud, a rhaid iddyn nhw ddibynnu ar eraill i gyflwyno'r hyn y mae fy mab (mabwysiedig) hynaf yn ei alw yn 'gefndir trasig' - mae fy mab braidd yn ddramatig ac rydw i bron yn bendant nad yw'n cael hynny gen i (peswch).
Daeth fy mhartner a minnau yn dadau am y tro cyntaf yn 2016, ac yna am yr eildro o fewn cyfod o flwyddyn. Cawsom ein bendithio â dau fab bendigedig â phersonoliaethau hollol wahanol. I oroesi'r broses hon, rhaid ichi fod yn wrthrychol. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn trin eu plant mewn ffyrdd dychrynllyd, a bydd nifer o blant sydd 'yn y system' (ymadrodd ofnadwy) yn dwyn y creithiau hynny am gyfran helaeth o'u hoes, neu efallai am byth. I riant mabwysiadol, rhaid mynd trwy'r broses gyda'ch llygaid - a'ch calon - ar agor, oherwydd allwch chi ddim rhagweld pa drawma y byddwch yn helpu eich plentyn i ddelio ag ef.
Efallai fod ein plant yn dwyn eu clwyfau eu hunain. Efallai na all fy mhartner a minnau byth ddeall yr effaith a gafodd eu bywydau cynnar ar ein plant (er enghraifft, ein haelwyd ni oedd y pumed aelwyd yr ymgartrefodd fy mab hynaf ynddi), ond rydym yn ein cysuro ein hunain trwy wybod na fyddan nhw byth yn cofio unrhyw beth ar wahân i'r cariad ac, i fod yn hollol onest, y gwaseidd-dra a gânt gennym ni. Ond mae hyn yn rhoi cyfrifoldeb mawr ar ein hysgwyddau ni ac ar ysgwyddau rhieni mabwysiadol ledled y byd.
Yn wahanol i arwyr llyfrau comics, nid yw'n iach i blant mabwysiedig gael hunaniaeth gudd. Yn lle atgofion, rhaid inni gyfleu heb feirniadaeth na hunan-les (tasg anodd) bod eu straeon ychydig yn fwy cymhleth na straeon plant eraill ac y bydd yn rhaid iddyn nhw, rhyw ddydd, wynebu'r bywyd hwnnw, er mor fyr ydoedd, a'r bobl a adawon nhw ar ôl.
Mae'n debyg y byddwn yn ymlafnio â hyn gyda mwy nag un o'n plant, ond allwn ni ddim cuddio rhagddo. Mae hi'n hollbwysig iddyn nhw ddeall o ble maen nhw'n tarddu; mae hi'n hollbwysig iddyn nhw gael atebion i'w cwestiynau cyn gynted ag y byddan nhw'n ddigon hen i ddeall (wedi'r cyfan, mae ganddyn nhw ddau dad, ac mae'n anhygoel pa mor sydyn y sylweddolan nhw nad dyma'r 'norm'). Nid ydym eisiau eu taro â datgeliad mawr neu dro syfrdanol yn y stori; byddai hynny, yn ddi-os, yn eu brifo'n waeth. Ac er bod eu cefndir yn cynnwys peth trasiedi (mae unrhyw amgylchiad sy'n arwain at symud plentyn oddi wrth ei deulu genedigol yn drasig), mae hi'n bwysig iddyn nhw ddeall y gallai'r cefndir hwnnw fod yn llawer, llawer gwaeth.
Dim ond ar ôl imi gael fy mhlant y llwyddais i roi trefn ar fy hunaniaeth fy hun.
Comments