top of page

Anweithredol

On Request

Caerdydd

Helpu i lunio dyfodol conservatoire cenedlaethol Cymru

Yma dros y celfyddydau, Cymru, y dyfodol


Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn chwilio am unigolyn eithriadol i fod yn Gadeirydd nesaf i’r sefydliad.

Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, mae’r Coleg yn meithrin y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, crewyr, arweinwyr celfyddydau ac arloeswyr diwylliannol. Yn gartref i fwy na 900 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd ac yn cyflwyno rhaglen gelfyddydau cyhoeddus fwyaf Cymru, mae'r Coleg yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd diwylliannol, addysgol ac economaidd Cymru a thu hwnt.

Mae hwn yn gyfle unigryw i arwain Bwrdd un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru ar adeg gyffrous yn ei ddatblygiad. Gan adeiladu ar sylfeini cryf, gwydnwch ariannol gwell, mentrau newydd cyffrous gan gynnwys ailddatblygu Hen Lyfrgell Caerdydd, ac uchelgeisiau cynyddol ar gyfer ehangu mynediad ac ymgysylltiad ledled Cymru, bydd y Cadeirydd nesaf yn helpu i arwain y Coleg trwy ei bennod nesaf.

Gan weithio'n agos gyda'r Pennaeth, y Bwrdd a Grŵp Prifysgol De Cymru, bydd y Cadeirydd yn darparu arweinyddiaeth strategol, yn hyrwyddo gweledigaeth uchelgeisiol y Coleg, yn sicrhau'r safonau llywodraethu uchaf ac yn helpu i gryfhau effaith y Coleg ledled Cymru a thu hwnt.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan unigolion sy'n dod â:

 

  • Phrofiad sylweddol o arweinyddiaeth a llywodraethu ar lefel bwrdd
  • Sgiliau cadeirio, dylanwadu a meithrin perthnasoedd cryf
  • Mewnwelediad strategol a barn gadarn
  • Ymrwymiad i gynhwysiant, uniondeb a gwerth cyhoeddus
  • Gwerthfawrogiad o'r celfyddydau perfformio, y diwydiannau creadigol a rhagoriaeth addysgol
  • Y gallu i ymgysylltu'n hyderus â rhanddeiliaid ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol


Rôl ddi-dâl yw hon (caiff treuliau rhesymol eu talu) am dymor cychwynnol o dair blynedd, gyda'r posibilrwydd o ailbenodi. Mae'r rôl yn gofyn am bresenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd, digwyddiadau'r Coleg ac ymgysylltu'n rheolaidd â'r Pennaeth a rhanddeiliaid allweddol.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan bŵer y celfyddydau i drawsnewid bywydau a chymunedau, a’ch bod yn awyddus i helpu i lunio dyfodol un o brif gonservatoires y DU, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Sut i wneud cais

Am drafodaeth anffurfiol a chopi o'r Pecyn Ymgeisydd, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu info@goodsonthomas.com .

I wneud cais, cyflwynwch eich CV a'ch llythyr eglurhaol trwy'r botwm 'Gwnewch gais nawr' isod.

Dyddiad cau: 12pm, 21 Medi 2026
Cyfweliadau panel terfynol : w/d 5 Hydref 2026

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Cadeirydd

Please compete this form to help us and our client monitor the diversity of our candidates. We encourage full disclosure, however we do recognise that some people may prefer not to disclose all or some of their personal data - in which case, please feel free to select "Prefer not to say".

The details you provide will be treated by us and our client as anonymous, private & confidential information.

This data will be aggregated and will only be used strictly for equal opportunities monitoring and reporting purposes.

Some of the questions and categories used include those recommended by the Equality and Human Rights Commission, UK census and the HESA, as best practice.

If you have any queries or questions about this form, then please contact us.

Equality, Diversity and Inclusion Monitoring

Upload
Max: 1 MB
Upload
Max: 1 MB

Goodson Thomas wants to ensure that all applicants are treated equally whatever their race, colour or ethnic origin. To do this we need to know about the ethnic origin of people who apply to join us. Which group do you most identify with?

Do you consider yourself to have a disability? A disabled person is defined under the Equality Act 2010 as someone with a 'physical or mental impairment which has a substantial and long term adverse effect on that person's ability to carry out normal day-to-day activities'.

Uploading file 1 of 2

Apply Now

bottom of page