
Gweithredol

£98,000 - £113,925

Prif Swyddfa yng Nghaerdydd
O haf 2025 ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn creu sefydliad hyd braich newydd - a elwir ar hyn o bryd yn Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Addysg Cymru - i gefnogi'r gweithlu addysg drwy ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel a datblygu arweinyddiaeth.
Mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru, bydd y corff cenedlaethol yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws y sector addysg i sicrhau bod ei waith yn berthnasol i anghenion y proffesiwn.
Wedi'i lywio gan adborth gan y sector ac adolygiad o rolau partneriaid addysg, bydd y sefydliad yn arwain newid sylweddol yn y ffordd y mae dysgu proffesiynol, ymholiadau a chymorth arweinyddiaeth yn cael eu comisiynu, eu cynllunio a'u cyflwyno'n genedlaethol.
I arwain y gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru yn edrych i benodi Prif Weithredwr a fydd yn darparu arweinyddiaeth strategol, yn llunio cyfeiriad y sefydliad, ac yn sicrhau ei fod yn cyflawni canlyniadau ystyrlon a mesuradwy ar gyfer y gweithlu addysg a dysgwyr ledled Cymru.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Brofiad o arwain sefydliad o raddfa sylweddol gyda'r gallu i weithredu fel Swyddog Cyfrifyddu.
- Y sgiliau i ddatblygu diwylliant o welliant parhaus yn fewnol ac yn allanol.
- Ddealltwriaeth a diddordeb ym mholisi addysg Llywodraeth Cymru.
- Hanes cryf o feithrin perthnasoedd effeithiol gydag ystod eang o randdeiliaid ar lefel arweinyddiaeth gyda'r nod o ddatblygu hygrededd gydag ymarferwyr ac arweinwyr ar draws pob sector addysg yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad cwbl ddwyieithog erbyn 2050. Felly, mae sgiliau iaith Gymraeg yn amlwg yn ased ar gyfer y swydd hon. Fodd bynnag, o ran ymgeisydd llwyddiannus nad oes ganddo sgiliau iaith Gymraeg, mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r unigolyn i ddatblygu ei Gymraeg ar ôl ei benodi.
Fel Cyflogwr Cyfle Cyfartal a sefydliad Hyderus o ran Anabledd, mae Llywodraeth Cymru yn annog ceisiadau gan bobl anabl yn weithredol ac yn gweithredu cynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer pobl anabl (fel y'i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010).
I drafod yn anffurfiol ac i gael copi o friff yr ymgeisydd, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu gwybodaeth@goodsonthomas.com.
I wneud cais, cyflwynwch eich CV a'ch llythyr eglurhaol trwy'r adran 'Gwneud Cais nawr' isod.
Dyddiad cau: Canol dydd, 30 Mehefin 2025
Dyddiad y cyfweliad: 17 Gorffennaf 2025
Cydnabyddir pob cais.

Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Addysg Cymru
Prif Weithredwr
Please compete this form to help us and our client monitor the diversity of our candidates. We encourage full disclosure, however we do recognise that some people may prefer not to disclose all or some of their personal data - in which case, please feel free to select "Prefer not to say".
The details you provide will be treated by us and our client as anonymous, private & confidential information.
This data will be aggregated and will only be used strictly for equal opportunities monitoring and reporting purposes.
Some of the questions and categories used include those recommended by the Equality and Human Rights Commission, UK census and the HESA, as best practice.
If you have any queries or questions about this form, then please contact us.
Equality, Diversity and Inclusion Monitoring
Goodson Thomas wants to ensure that all applicants are treated equally whatever their race, colour or ethnic origin. To do this we need to know about the ethnic origin of people who apply to join us. Which group do you most identify with?
Do you consider yourself to have a disability? A disabled person is defined under the Equality Act 2010 as someone with a 'physical or mental impairment which has a substantial and long term adverse effect on that person's ability to carry out normal day-to-day activities'.
Uploading file 1 of 2

