top of page

Gweithredol

£89,338 - £100,349

*Rôl Cymru gyfan gyda gweithio hybrid a phencadlys

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn chwilio am Gyfarwyddwr Trawsnewid a Datblygu’r Gweithlu i ymuno â’i Dîm Gweithredol, i ddarparu arweinyddiaeth strategol i’w weithgareddau i ddatblygu’r gweithlu, gwella gwasanaethau, ymchwil, data ac arloesi.

Gyda chyrhaeddiad Cymru gyfan, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu arweinyddiaeth ac arbenigedd mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gan weithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i alinio â pholisïau Llywodraeth Cymru.

Mae’r rôl hon yn gyfle allweddol i wella a datblygu’r cymorth sydd ar gael i wasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau gofal plant yng Nghymru, ac yn y pen draw i wella gofal a chymorth i unigolion yng Nghymru.

Byddwch yn:

  • Meddu ar brofiad rheoli uwch mewn gofal cymdeithasol a datblygu'r gweithlu, ynghyd â'r gallu i weithio ar lefel genedlaethol.
  • Gallu dangos tystiolaeth o arweinyddiaeth systemau sylweddol ar draws y sector.
  • Rhagori wrth feithrin perthnasoedd a meddu ar y gallu i gynnal partneriaethau cryf gyda’r sector.
  • Gallu datblygu a gweithredu strategaeth sefydliadol neu sector/cydweithredol. Fel rhan o'ch rôl byddwch yn arwain y strategaeth gweithlu 10 mlynedd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru) ac Ymlaen, y strategaeth ymchwil, arloesi, a gwella ar gyfer 2024-2029.


Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn annog ceisiadau gan bobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill a chan eraill sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli mewn swyddi uwch mewn bywyd cyhoeddus. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac mae'n gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r meini prawf dethol hanfodol.

Am sgwrs anffurfiol a chopi o'r Pecyn Ymgeisydd, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu gwybodaeth@goodsonthomas.com

I wneud cais, cyflwynwch eich CV a'ch llythyr eglurhaol trwy'r botwm 'Gwneud cais nawr' isod

Dyddiad cau: Hanner dydd, 23 Mai 2024
Dyddiad cyfweliad: 11 Mehefin 2024


Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.


*Mae'r sefydliad yn gweithredu polisi gweithio hybrid sy'n rhoi hyblygrwydd sylweddol i ddeiliad y swydd benderfynu ar ei weithle yn seiliedig ar anghenion y sefydliad a'i gylch gwaith Cymru gyfan. At ddibenion cytundebol, man gwaith enwebedig deiliad y swydd fydd naill ai ein swyddfeydd yng Nghaerdydd neu gyffordd Llandudno. Bydd y rôl hon yn gofyn am deithio ledled Cymru gyda phresenoldeb rheolaidd yng Nghaerdydd.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Cyfarwyddwr Trawsnewid a Datblygu'r Gweithlu

Please compete this form to help us and our client monitor the diversity of our candidates. We encourage full disclosure, however we do recognise that some people may prefer not to disclose all or some of their personal data - in which case, please feel free to select "Prefer not to say".

The details you provide will be treated by us and our client as anonymous, private & confidential information.

This data will be aggregated and will only be used strictly for equal opportunities monitoring and reporting purposes.

Some of the questions and categories used include those recommended by the Equality and Human Rights Commission, UK census and the HESA, as best practice.

If you have any queries or questions about this form, then please contact us.

Equality, Diversity and Inclusion Monitoring

Upload
Upload

Goodson Thomas wants to ensure that all applicants are treated equally whatever their race, colour or ethnic origin. To do this we need to know about the ethnic origin of people who apply to join us. Which group do you most identify with?

Do you consider yourself to have a disability? A disabled person is defined under the Equality Act 2010 as someone with a 'physical or mental impairment which has a substantial and long term adverse effect on that person's ability to carry out normal day-to-day activities'.

Uploading file 1 of 2

Apply Now

bottom of page