English / Cymraeg

Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru / Director of Citizens Advice Cymru

Citizens Advice

Blended working between home and office

£79,768.00 y flwyddyn / p.a.


Executive
0397-GT-CA

Lleoliad: Gweithio cyfunol rhwng y cartref a'r swyddfa gyda phresenoldeb rheolaidd yn swyddfa Caerdydd a lleoliadau eraill ledled Cymru, yn ogystal â theithio i Lundain

Mae Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru yn rôl hollbwysig, yn gyfrifol am leoli'r sefydliad fel sefydliad profedig a dibynadwy yng Nghymru.

Bydd y Cyfarwyddwr yn lysgennad ar gyfer ein cenhadaeth a'n gwerthoedd, gan weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, ac ar y lefelau uchaf o lywodraeth yng Nghymru.

Rydym yn chwilio am arweinydd hyblyg, llawn gweledigaeth gyda phrofiad gweithredol, a all uno cydweithwyr ar draws Cyngor ar Bopeth cenedlaethol a lleol er budd ein cleientiaid ledled Cymru.

Mae gan Cyngor ar Bopeth Cymru 19 aelod-sefydliad lleol ledled Cymru. Bydd gweithio ar y cyd ar draws y gwasanaeth yng Nghymru, gyda'n harweinwyr lleol profiadol ac angerddol, yn ffocws allweddol i'r rôl hon.

P'un a yw'r rhai sy'n dod atom am gymorth yn delio ag un broblem fach neu lawer o rai cymhleth, rydym yma i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae Cyngor ar Bopeth yn sefydliad dwy wlad - yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr - gyda pharch llawn i'r pwerau a'r ysgogiadau polisi sydd wedi'u datganoli i Gymru. Bydd Cyfarwyddwr Cymru yn arwain ein hymgysylltiad yng Nghymru wrth i ni ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer y gwasanaeth cyfan i fynd â ni o 2023 i'r dyfodol.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant o bwysigrwydd strategol o fewn y sefydliad ac fe'u cydnabyddir fel pethau sy'n hanfodol i bopeth a wnawn fel gwasanaeth.

Mae creu timau amrywiol a chynhwysol lle mae gan bawb ymdeimlad o berthyn yn ganolog i gyflawni ein cenhadaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Credwn fod cynhwysiant yn fater sy'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol - egwyddor sy'n sail i'n holl waith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. I'r perwyl hwnnw, rydym yn arbennig yn croesawu ceisiadau gan bobl rydym yn awyddus i weld cynrychiolaeth well ohonynt yn ein sefydliad a'n sector - pobl croenliw, pobl LGBTQ+, a phobl anabl. Os ydych chi'n anabl ac yn bodloni ein meini prawf sylfaenol, byddwch yn cael cyfweliad ar gyfer y rôl hon a byddwn yn darparu addasiadau rhesymol yn ôl yr angen. Rydym yn cefnogi'r model cymdeithasol o anabledd.

Rydym yn gyflogwr hyblyg, felly gallai'r rôl hon fod yn addas i unrhyw un y byddai'n well ganddynt drefniant hyblyg i helpu eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Fel arfer, rydym yn hyblyg gyda lleoliad hefyd, ond mae'n bosibl y bydd rhai rolau yn gofyn i chi fod mewn lleoliad penodol. Mae llawer o'n cydweithwyr yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gweithio o bell.

Mae Cyngor ar Bopeth yn gweithredu o swyddfeydd yng Nghymru a Lloegr. Mae 4 swyddfa ranbarthol yng Nghaerdydd, Llundain, Birmingham a Leeds, felly rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus fod wedi'i leoli yng Nghymru neu Loegr.
Mae ein hymrwymiad i lesiant ein cydweithwyr yn cael ei adlewyrchu wrth i ni ennill y wobr Aur yn y categori Iechyd a Lles, yn ogystal ag Enillwyr Cyffredinol, yng Ngwobrau Profiad Gweithwyr 2022.

Sylwch nad yw Cyngor ar Bopeth yn sefydliad sy'n noddi. Felly, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â'r hawl i weithio yn y DU yn barod neu allu sicrhau'r hawl i weithio yn y DU yn annibynnol.

Os bydd nifer fawr o geisiadau, rydym yn cadw'r hawl i ddod â'r cyfnod ymgeisio i ben yn gynnar.

I drafod yn anffurfiol ac i gael copi o friff yr ymgeisydd, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu info@goodsonthomas.com.

I wneud cais, cyflwynwch eich CV a'ch llythyr eglurhaol trwy'r botwm 'Gwneud Cais nawr' isod

Dyddiad cau: 23:59, 31 Hydref 2022
Dyddiad y cyfweliad: w/d 14 Tachwedd 2022

Cydnabyddir pob cais.

Director of Citizens Advice Cymru

Citizens Advice

Salary: £79,768.00 p.a.

Location: *Blended working between home and office with regular attendance at Cardiff office and other locations pan-Wales, as well as travel to London*

The Director of Citizens Advice Cymru is a critical role, responsible for positioning Citizens Advice Cymru as a tried, tested and trusted organisation.

The Director will be an ambassador for Citizens Advice Cymru's mission and values, working with key stakeholders, and at the highest levels of government in Wales.

They will be a visionary and flexible leader with operational experience, who can bring together colleagues across national and local Citizens Advice for the benefit of clients throughout Wales.

Citizens Advice Cymru has 19 local member organisations across Wales. Working collaboratively across the service, with the organisation's experienced and passionate local leaders, will be a key focus for the Director.

Whether it's one small problem or many complex ones, the organisation is here to provide support for people across Wales.

Citizens Advice is a bi-national organisation - operating across Wales and England - with full respect for the powers and policy levers devolved to Wales. The Cymru Director will lead our Wales engagement as we develop a new service-wide strategy to take us from 2023 into the future.

Equity, Diversity and Inclusion (EDI) is of strategic importance within the organisation and recognised as integral to all we do as a service. Central to pursuing our EDI mission is building diverse and inclusive teams in which everyone has a sense of belonging. We believe inclusion is a social justice issue - a principle that underpins all our EDI work. To that end, we particularly welcome applications from people we would like to see better represented in our organisation and sector - people of colour, LGBTQ+ people and disabled people. If you are disabled and meet our minimum criteria you will be guaranteed an interview for this role and we will provide reasonable adjustments as needed. We follow the social model of disability.

We're a flexible employer, so this role may suit anyone who'd prefer a flexible arrangement to help their work/life balance. We're usually flexible on location too, however some roles may require you to be based in a certain location, many of our colleagues spend most of their time working remotely.

The National Citizens Advice Operates from offices in England and Wales, with 4 regional offices based in Cardiff, London, Birmingham and Leeds, therefore all successful applicants must be based within England or Wales.

Our commitment to colleague wellbeing is reflected in us being awarded Gold in the Health & Wellbeing category, as well as Overall Winners, at the Employee Experience Awards 2022.

Please be aware that Citizens Advice is not a sponsoring organisation. Therefore the successful applicant must already possess the right to work in the UK or be able to secure the right to work in the UK independently.

In the event of a high number of applications, we reserve the right to close the application early.

For an informal discussion and a copy of the Candidate Pack, please contact the Goodson Thomas team on 029 2167 4422 or info@goodsonthomas.com

To apply please submit your CV and Covering letter via the 'Apply now' button below

Closing date: 23:59, 31st October 2022
Interview date: w/c 14th November 2022

All applications will be acknowledged.


Back to List Apply now