Cyfarwyddwr Masnachol / Commercial Director
Awen Cultural Trust
Bryngarw
£67,131-£74,590
Wedi'i sefydlu yn 2015, nod Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yw gwella a hyrwyddo cyfleoedd diwylliannol ar draws Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf. Elusen yw'r Ymddiriedolaeth a ariennir gan grantiau, incwm masnachol, ac aelodaeth a rhoddion. Mae Awen yn gweithredu ar draws ystod o gyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol. Mae'r rhain yn cynnwys theatrau, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, plasty a pharc a dau brosiect sy'n seiliedig ar waith ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Gyda dros filiwn o ymwelwyr yn ymweld â'u lleoliadau a'u gwasanaethau bob blwyddyn, mae Awen yn cael effaith wych ar ehangu profiadau diwylliannol ar draws gwahanol gefndiroedd cymdeithasol-economaidd.
Mae strategaeth Awen yn seiliedig ar dri maes: Pobl, Lleoedd, Busnes Da. Mae Pobl yn ffocysu ar ddileu rhwystrau mewn cymdeithas sy'n atal unigolion rhag cymryd rhan mewn profiadau diwylliannol a chael budd ohonynt. Mae Awen yn credu bod diwylliant yn cysylltu pobl, a dyma yw craidd y strategaeth. Defnyddir Lleoedd i annog twf busnesau ac economïau lleol. Trwy fuddsoddi yn eu cyfleusterau a hyrwyddo treftadaeth y lleoedd hyn, mae Awen yn anelu at annog y gymuned. Rhoddir pwyslais mawr ganddynt hwy eu hunain ar gynnyrch lleol lle bo modd, gan annog twf busnesau lleol. Mae Busnes Da yn sicrhau bod yr holl arferion busnes yn gynaliadwy ac yn fuddiol i Awen a'r gymuned leol. Mae'r tri maes hyn yn cyfrannu at eu pwrpas cyffredinol; i 'wneud bywydau pobl yn well'.
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen am benodi Cyfarwyddwr Masnachol newydd i arwain strategaethau masnachol Awen yn unol â gweledigaeth y sefydliad.
Y Rôl
Gan adrodd i Brif Weithredwr Awen, Richard Hughes, bydd y Cyfarwyddwr Masnachol yn gyfrifol am arwain cyfleoedd masnachu a masnach Awen, gan wneud y gorau o ddulliau masnachol cyfredol tra'n darganfod mentrau newydd.
Mae'r rôl yn un newydd o fewn y sefydliad a'i nod yw darparu uwch arweinyddiaeth i is-gwmni masnachu Awen, tra'n gweithio ar draws y sefydliad i amrywio'r sylfaen incwm. Gwneir hyn drwy weithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr i weithredu hyn o fewn gweledigaeth Awen. Bydd deiliad y swydd yn ymuno â'r Tîm Arwain Gweithredol, gyda sedd o amgylch y bwrdd a darparu arweinyddiaeth, cyngor a chefnogaeth i'r Prif Weithredwr a'r Ymddiriedolwyr.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am osod strategaeth fasnachol pum mlynedd ar gyfer Awen, gan yrru incwm masnachol yn unol â'u cynllun busnes cyffredinol.
Yr Unigolyn
Byddwch yn unigolyn o safon uchel, craff a llawn cymhelliant gyda phrofiad amlwg o oruchwylio a gwella strategaeth fasnachol sefydliad. Gyda'r gallu i reoli anghenion a dymuniadau rhanddeiliaid amrywiol.
Bydd gennych brofiad o reoli gofynion masnachol, yn ddelfrydol o fewn sefydliad elusennol.
Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol, gyda'r gallu i hyrwyddo gwerthoedd Awen ar draws y sefydliad ac unrhyw ffrydiau refeniw newydd a geir.
Mae gwybodaeth am y cymunedau lleol y mae Awen yn gweithredu ynddynt yn ddymunol, gyda dealltwriaeth o'r materion sy'n wynebu'r ardaloedd hyn a sefyllfa Awen o ran rheoli a gwella'r cymunedau.
Bydd profiad o weithio o fewn y trydydd sector hefyd yn werthfawr, gyda dealltwriaeth gref o sut mae'r sefydliadau hyn yn gweithredu ac yn gweithio o fewn cymunedau.
I drafod yn anffurfiol ac i gael copi o friff yr ymgeisydd, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422.
I wneud cais, cyflwynwch eich CV a'ch llythyr eglurhaol trwy'r botwm 'Gwneud Cais nawr' isod
Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Llun 10 Hydref 2022
Dyddiad y cyfweliad: 27 & 28 Hydref 2022 a 1 Tachwedd 2022*
Cydnabyddir pob cais.
Commercial Director
Awen Cultural Trust
£67,131-£74,590
Bryngarw
Established in 2015, Awen Cultural Trust aims to enhance and promote cultural opportunities across Blaenau Gwent, Bridgend and Rhondda Cynon Taf. A charity funded by grants, commercial income, and membership and donations. Awen operates across a range of cultural facilities and activities. These include theatres, libraries, community centres, a country house and park and two work-based projects for adults with learning disabilities. With over one million visitors to their venues and services each year, Awen make a brilliant impact on widening cultural experiences across different socio-economic backgrounds.
Awen's strategy is based around three areas: People, Places, Good Business. People is aimed at removing barriers in society that prevent individuals from participating in and gaining benefit from cultural experiences. Awen believe that culture connects people, and the strategy revolves around this idea. Places is used to encourage the growth of local businesses and economies. By investing in their facilities and promoting the heritage of these places, Awen aim to encourage the community. A heavy focus is placed by themselves on sourcing their products locally where possible, further encouraging local business. Good Business is designed to ensure all business practices are sustainable and beneficial for Awen and the local community. These three areas contribute to their overall purpose; to 'make people's lives better'.
Awen Cultural Trust are seeking to appoint a new Commercial Director to lead Awen's commercial strategies in line with the vision of the organisation.
The Role
Reporting to Awen's Chief Executive, Richard Hughes, the Commercial Director will be responsible for leading Awen's trading and commercial opportunities, optimising current commercial approaches whilst further unearthing new ventures.
The role is a new one within the organisation and aims to provide senior leadership to Awen's trading subsidiary, whilst working across the organisation to diversify the income base. This will be done by working closely with the Chief Executive to enact this within Awen's vision. The postholder will join the Executive Leadership Team, taking a seat on the board and providing leadership, advice, and support to the Chief Executive and Trustees.
The postholder will be responsible for setting out a five year commercial strategy for Awen, driving commercial income in line with their overall business plan.
The Individual
You will be a high calibre, insightful and motivated individual with a demonstrable track record in overseeing and improving the commercial strategy of organisations. With the ability to manage the needs and wants of varying stakeholders.
You will have proven experience of managing commercial requirements, ideally within a charity setting.
You will be an outstanding communicator, with the ability to promote Awen's values across the organisation and any new revenue streams acquired.
Knowledge of the local communities Awen operates in is desirable, with an understanding of the issues facing these areas and the position Awen is in at managing and improving the communities.
Experience working within the third sector will also be valuable, with a strong understanding of how these organisations operate and work within communities.
For an informal discussion and a copy of the Candidate Pack, please contact the Goodson Thomas team on 029 2167 4422 or info@goodsonthomas.com
To apply please submit your CV and Covering letter via the 'Apply now' button below
Closing date: Midday, Monday 10th October 2022
Interview date: 27th & 28th October 2022 & 1st November 2022
All applications will be acknowledged.
Back to List Apply now